cardiffuniweb
Internal Applicants Only - Reaching Wider Officer
Job description
Job Advert
This post is currently open to employees of Cardiff University only. Please do not apply if you do not have a current contract of employment with the University.
Internal Applicants Only - Reaching Wider Officer
An exciting opportunity has arisen to join the Widening Participation Team as a Reaching Wider Officer.
The successful candidate will be a highly motivated individual responsible for developing and managing the implementation and delivery of an activities programme for Reaching Wider's priority audiences. Excellent networking, collaboration and practitioner skills and experience are required as the work includes collaborating with Reaching Wider teams at the University of South Wales and Cardiff Metropolitan University, academic staff and students and a range of partners and key stakeholders in communities around South East Wales. These skills will be used to establish the Reaching Wider brand and build and deliver an activities programme. Strong organisational and communication skills are required to undertake budget management, professional advice and guidance on partnership processes and procedures and gather, input and analyse data. Reflection is also important for effective programme evaluation.
Reaching Wider is a Medr funded partnership programme which exists to widen access to higher education by tackling barriers to entry, progression and success in higher education. We achieve this through offering a suite of long-term interventions that support attainment raising, provide information, advice and guidance and assist progression to higher education and level 4 learning for targeted priority groups.
The post holder will be an effective practitioner in the design, delivery and evaluation of programmes on behalf of the university to external and internal partners, managing a portfolio of programmes as the lead practitioner for this area of work in your employing university.
This is a full-time (35 hours per week), fixed term post, available immediately, until 31 August 2027.
Salary: £33,951 - £36,636 per annum (Grade 5).
If you would like to discuss the role, please contact Rachel Leighton, Head of Widening Participation, on leightonr@cardiff.ac.uk.
In line with our commitment to equality, diversity and inclusion we will consider applications for job share/reduced hours. Please state this in your application.
There will be some element of manual handling in terms of event set up/breakdown as well as the preparation and distribution of materials for events and mailings.
A satisfactory Enhanced DBS check is required for this post.
The role is based at Sbarc, on the Cathays Campus. The team works in the office on Monday and Tuesday and from home for the remainder of the week. However, there are regular occasions when the team are required to be on campus, or elsewhere, Wednesday to Friday (e.g. to support event delivery) so a flexible approach is required. Evening/weekend working may be required. Travel across South East Wales to attend meetings and events will be required.
Closing date: Wednesday, 15 July 2026
External applications are currently not being considered for this post. If the decision is made to open the post to external candidates, the strapline at the top will be removed and you will be given ample time to apply - please check back periodically for details.
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those from under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT +, BAME or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Hysbyseb Swydd
Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda'r brifysgol.
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Swyddog Ymestyn yn Ehangach
Mae cyfle cyffrous wedi codi i fod yn Swyddog Ymestyn yn Ehangach yn y tîm Ehangu Cyfranogiad.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn llawn cymhelliant sy'n gyfrifol am ddatblygu a rhoi rhaglen o weithgareddau ar waith i gynulleidfaoedd blaenoriaethol Ymestyn yn Ehangach. Mae angen sgiliau a phrofiad rhwydweithio, cydweithio ac ymarfer, gan fod y gwaith yn cynnwys cydweithio â'r timau Ymestyn yn Ehangach ym Mhrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, myfyrwyr a staff academaidd, ac amrywiaeth o bartneriaid a rhanddeiliaid allweddol mewn cymunedau ledled de-ddwyrain Cymru. Bydd y sgiliau hyn yn cael eu defnyddio i sefydlu brand Ymestyn yn Ehangach a datblygu a chyflawni rhaglen o weithgareddau. Mae angen sgiliau trefnu a chyfathrebu cryf i reoli cyllideb, rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol ar brosesau a gweithdrefnau partneriaeth, a chasglu, mewnbynnu a dadansoddi data. Mae hefyd yn bwysig myfyrio er mwyn gwerthuso rhaglenni yn effeithiol.
Mae Ymestyn yn Ehangach yn rhaglen bartneriaeth a ariennir gan Medr gyda'r nod o ddenu mwy o bobl i addysg uwch drwy fynd i'r afael â rhwystrau at fynediad i addysg uwch, yn ogystal â'r rhwystrau i wneud cynnydd a llwyddo ynddi. Rydym yn cyflawni hyn drwy gynnig cyfres o ymyriadau hirdymor sy'n cefnogi'r gwaith o godi cyrhaeddiad, yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ac yn cynorthwyo dilyniant i addysg uwch a dysgu ar lefel 4 i grwpiau blaenoriaeth wedi'u targedu.
Bydd deiliad y swydd yn ymarferydd effeithiol yn y gwaith o lunio, cyflwyno a gwerthuso rhaglenni ar ran y brifysgol i bartneriaid allanol a mewnol, gan reoli portffolio o raglenni fel y prif ymarferydd ar gyfer y maes gwaith hwn yn y brifysgol sy'n eich cyflogi.
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) am gyfnod penodol yw hon, hyd at 31 Awst 2027.
Cyflog: £33,951 - £36,636 y flwyddyn (Gradd 5).
Os hoffech chi drafod y swydd, cysylltwch â Rachel Leighton, Pennaeth Ehangu Cyfranogiad, gan e-bostio leightonr@caerdydd.ac.uk.
Yn unol â'n hymroddiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, byddwn yn ystyried ceisiadau i rannu swydd/gweithio llai o oriau. Nodwch hyn yn eich cais.
Bydd peth elfen o godi a chario wrth osod/dad-osod cyfarpar mewn digwyddiadau yn ogystal â pharatoi a dosbarthu deunyddiau ar gyfer digwyddiadau a gohebiaeth drwy'r post.
Bydd angen gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi ichi gael eich penodi.
Mae'r rôl wedi'i lleoli yn Sbarc, ar Gampws Cathays. Mae'r tîm yn gweithio yn y swyddfa ar ddydd Llun a dydd Mawrth a gartref am weddill yr wythnos. Fodd bynnag, mae achlysuron rheolaidd pan fydd gofyn i'r tîm fod ar y campws, neu mewn mannau eraill, o ddydd Mercher i ddydd Gwener (e.e. i gefnogi digwyddiadau) felly mae angen dull hyblyg. Efallai y bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio gyda'r nos neu ar benwythnosau. Bydd angen teithio o amgylch de-ddwyrain Cymru i fynd i gyfarfodydd a digwyddiadau.
Dyddiad cau: Dydd Mercher, 15 Gorffennaf 2026
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o'r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o'r gymuned, beth bynnag fo'u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio'n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.


